Mae 17 o bobol wedi marw erbyn hyn a thros 180 wedi’u hanafu yn dilyn o leiaf 18 o danau gwyllt yng Nghaliffornia sydd wedi difetha mwy na 2,000 o gartrefi a busnesau.

Mae cyfnod o argyfwng wedi’i gyhoeddi gan y Llywodraethwr Jerry Brown, ac fe ddywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump fod y digwyddiad yn “drasiedi ofnadwy”.

Mae’r tanau a ddechreuodd ger San Francisco nos Sul ymhlith y gwaethaf yn hanes y dalaith.

Dechreuodd y rhan fwyaf o danau yn siroedd Napa a Sonoma, sy’n gartref i ddwsinau o winllannoedd sy’n denu twristiaid o bob cwr o’r byd, ac fe gyrhaeddodd y mwg San Francisco 60 o filltiroedd i ffwrdd.

Mae mwy na 100 o bobol ar goll o sir Sonoma o hyd, a chafodd rhagor o farwolaethau eu cyhoeddi nos Fawrth, sy’n golygu bod 11 o farwolaethau yno erbyn hyn. Mae’r chwech arall yn siroedd Napa, Yuba a Mendocino.

Mae o leiaf 185 o bobol wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, a thros 100 ohonyn nhw mewn uned frys yn ysbyty Santa Rosa ac am sgil effeithiau mwg a llosgiadau.

Yn ne Califfornia, mae rhan fwya’r trigolion sydd wedi cael eu heffeithio wedi cael dychwelyd i’w cartrefi ar ôl i 14 o adeiladau eraill gael eu dinistrio.