Mae beth bynnag chwech o bobol wedi’u lladd, a 68 o bobol eraill wedi’u hanafu, wedi i fws yn cario gweithwyr ffatri droi drosodd ger y ffin rhwng Mecsico a’r Unol Daleithiau.

Mae’r awdurdodau yn nhalaith Tamaulipas wedi bod yn dosbarthu lluniau yn dangos y bws gyda’i olwynion yn yr awyr, a’r rhan lle’r oedd teithwyr yn eistedd wedi’i gwasgu.

Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn toriad gwawr ar y ffordd rhwng dinas Reynosa a thref Rio Bravo, ychydig filltiroedd dros y ffin â McAllen yn Tecsas.