Llun: PA
Mae mwy na chant o bobol ar goll yn un rhan o ogledd Califfornia wrth i danau gwyllt ymledu drwy’r dalaith.

Hyd yn hyn, mae o leiaf deg o bobol wedi’u lladd gan y tanau, gyda saith ohonyn nhw yn sir Sonoma gyda thua chant o bobol eraill wedi’u hanafu, a’r tân wedi dinistrio 1,500 o gartrefi.

Mae lle i gredu fod y bobol sydd ar goll yn cael trafferthion i gysylltu â’u teuluoedd o ganlyniad i ddiffyg rhwydwaith ffôn symudol oherwydd y tanau.

Yn ogystal mae pobol mewn 5,000 o gartrefi yn ne Califfornia wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi ddydd Llun wrth i griwiau tân geisio rheoli’r tanau gwyllt.

Wrth ymweld â Chaliffornia mi ddywedodd y Dirprwy Arlywydd, Mike Pence, y bydd y llywodraeth wrth law i roi cymorth i’r dalaith – “rydym yn sefyll gyda chi,” meddai gan gyfeirio at bobol Califfornia.