“Fe wnawn ni stopio annibyniaeth” oedd neges Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy wrth siarad â phapur newydd El País am ymdrechion Catalwnia i ennill ei rhyddid.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd y Prif Weinidog, sy’n arwain llywodraeth sydd wedi cyhuddo Catalwnia o weithredu’n groes i gyfansoddiad Sbaen: “Dydy Sbaen ddim yn mynd i rannu ac fe fydd undod cenedlaethol yn cael ei gynnal.”

Ychwanegodd y byddai Sbaen “yn defnyddio’r holl offerynnau y mae’r ddeddfwriaeth yn eu rhoi i ni” er mwyn atal Catalwnia rhag cyhoeddi annibyniaeth.

“Dyletswydd y llywodraeth yw gwneud y penderfyniad hwnnw a’i wneud ar yr adeg gywir.

“Rydym wedi gwrando ar lawer o bobol. Rydym yn credu ein bod ni’n gwybod beth mae pobol Sbaen yn ei feddwl. Ac fe ddylen nhw wybod fod y llywodraeth hefyd yn gwybod beth sy’n rhaid iddi ei wneud.”

Beth fydd cam nesa’r llywodraeth?

Wrth i’r dyfalu barhau ynghylch y dyfodol yn Sbaen a Chatalwnia, a’r posibilrwydd o drafodaethau cymodi ar y gorwel, dywedodd Mariano Rajoy na fydd annibyniaeth yn digwydd.

“Mae’n amlwg y byddwn ni’n gwneud unrhyw benderfyniad y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu yn ôl sut mae digwyddiadau’n datblygu.

“Hoffwn ddweud un peth yn hollol glir: tra nad yw’r bygythiad o gyhoeddi annibyniaeth yn diflannu oddi ar banorama gwleidyddiaeth, mae’n mynd i fod yn anodd iawn i’r llywodraeth beidio â gwneud penderfyniadau.”

Wfftio annibyniaeth raddol

Tra bod Mariano Rajoy yn gwrthod derbyn annibyniaeth ar unwaith, mae e hefyd wedi wfftio’r awgrym y gallai Catalwnia ddod yn annibynnol yn raddol dros gyfnod o amser.

Ychwanegodd: “Does yna’r un llywodraeth yn y byd sy’n fodlon derbyn siarad am undod ei gwlad nac am y bygythiad i undod ei gwlad.

“All ddim byd gael ei adeiladu o dan fygythiad blacmêl. Ac felly mae’n gwbl amherthnasol eu bod nhw’n ceisio cyhoeddi annibyniaeth i’w gweithredu’r diwrnod canlynol…”