Swyddogion arfog ger safle'r digwyddiad yn Las Vegas (Llun: AP Photo/John Locher)
Mae’r heddlu yn Las Vegas wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu’n gyfrifol am un o’r achosion gwaethaf o saethu yn hanes diweddar yr Unol Daleithiau.

Cafodd Stephen Paddock, 64,  ei enwi fel yr ymosodwr a oedd wedi saethu’n farw mwy na 58 o bobol o falconi ystafell wely yng ngwesty a chasino Mandalay Bay yn y Las Vegas Strip.

Mae’n debyg ei fod yn daid ac yn byw yn Mesquite, sydd tua 80 milltir i’r gogledd ddwyrain o Las Vegas, ger y ffin a thalaith Arizona.

Roedd wedi tanio gwn at y dorf mewn cyngerdd awyr agored, Route 91 Harvest Festival, yn hwyr nos Sul, 1 Hydref. Fe gafodd 515 o bobol eraill eu hanafu.

Credir bod Stephen Paddock wedi lladd ei hun cyn i’r heddlu ruthro i mewn i’w ystafell wely ar un o loriau uchaf y gwesty lle’r oedd wedi bod yn aros ers Medi 28. Daethon nhw o hyd i 10 o ddrylliau, meddai’r siryf Joseph Lombardo.

Dywedodd nad yw’r heddlu’n credu bod ei gymar, Marilou Danley, 62, a oedd yn byw gydag ef yn Mesquite, yn gysylltiedig â’r digwyddiad gan nad oedd hi yn y wlad adeg yr ymosodiad.

“Dieflig”

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud bod y digwyddiad yn “weithred gwbl ddieflig.”

Mewn datganiad a gafodd ei darlledu, dywedodd Donald Trump bod y genedl wedi uno mewn “tristwch, sioc a galar” ar ôl y gyflafan.

Dywedodd y byddai’n ymweld â Las Vegas ddydd Mercher er mwyn cwrdd â’r gwasanaethau brys a theuluoedd y dioddefwyr.