Mae cyfraith newydd yn dod i rym yn Awstria yn gwahardd penwisg y burka.

Daw’r gwaharddiad ar drothwy etholiadau’r wlad ar Hydref 15.

Mae disgwyl i bleidiau gwrth-fewnfudo lwyddo yn yr ethliadau, gan ffurfio clymblaid wrth i’r wlad symud ymhellach i’r dde.

Mae’r gwaharddiad ar ddillad sy’n gorchuddio’r wyneb yn cynnwys mygydau sgïo, mygydau meddygol y tu allan i ysbytai a mygydau parti.

Gallai troseddwyr dderbyn dirwy o 150 Ewro (£130).