Carles Puigdemont, Llun: Wicipedia
Mae Gweinidog Tramor Catalwnia wedi apelio am gefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd cyn y refferendwm ar annibyniaeth o Sbaen.
Wrth siarad â newyddiadurwyr ym Mrwsel heddiw, dywed Raul Romeva, fod angen i sefydliadau’r UE “ddeall bod hwn yn fater sylweddol.”
Roedd yn siarad diwrnod ar ôl i Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, gyhuddo Ewrop o “gefnu” ar Gatalwnia.
Ers i Gatalwnia gyhoeddi’r refferendwm, mae Llywodraeth Sbaen wedi ymateb yn chwyrn gan arestio swyddogion yn Barcelona a chipio bron i 10 miliwn o bapurau pleidleisio.
Mae agwedd y llywodraeth ganolog wedi arwain at gymariaethau â’r unben milwrol, Franco, oedd yn llywodraethu ar y wlad rhwng 1939 ac 1975.
‘Dim trais’
Mae disgwyl i’r refferendwm ar annibyniaeth Catalwnia ddigwydd dydd Sul, 1 Hydref, a dywed Raul Romeva, nad yw’n disgwyl trais am “nad yw yn DNA’r Catalaniaid i ddefnyddio trais er mwyn datrys problemau gwleidyddol.”
Mwy am yr ymgyrchu yng Nghatalwnia yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg.