Llun: PA
Mae pob gwlad yn y byd yn caniatáu i fenywod yrru erbyn hyn, ar ôl i Saudi Arabia newid y gyfraith.
Cafodd y wlad gryn sylw negyddol ar hyd y blynyddoedd am garcharu menywod oedd wedi bod yn anwybyddu’r gwaharddiad.
Fe fu ymgyrch ar droed i newid y gyfraith ers y 1990au fel rhan o ymdrechion i ymestyn hawliau menywod yn gyffredinol.
Yn ôl adroddiadau’r cyfryngau yn y wlad, fe gafodd gorchymyn brenhinol ei gyhoeddi neithiwr i fenywod gael derbyn trwydded yrru am y tro cyntaf.
Bydd pwyllgor yn penderfynu sut mae gweithredu’r gyfraith newydd.
Mae’r Unol Daleithiau wedi croesawu’r newyddion.
Hawliau
Mae’r newid yn y gyfraith yn gam mawr ymlaen i wlad lle mae’r gymdeithas yn cael ei rheoli’n bennaf gan ddynion.
Yn gynharach yn y mis, cafodd menywod yr hawl i fynd i mewn i stadiwm genedlaethol y wlad yn Riyadh am y tro cyntaf erioed pan oedd y wlad yn dathlu diwrnod cenedlaethol.
Roedd clerigwyr ceidwadol wedi bod yn rhybuddio na ddylid rhoi’r hawl i fenywod yrru nac ymestyn eu hawliau, yn enwedig ym meysydd y gyfraith ac addysg.
Roedden nhw’n gofidio y byddai’r gymdeithas yn chwalu ac y byddai menywod yn fwy tebygol o bechu pe bai ganddyn nhw fwy o hawliau.
Ond mae disgwyl iddyn nhw allu cael trwydded yrru erbyn mis Mehefin y flwyddyn nesaf – a hynny heb ganiatâd dyn, a fydd dim angen i ddyn fod yn y car gyda nhw.
Dim ond yn 2015 y cafodd menywod yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.