Mae miloedd o Gwrdiaid yn Iran wedi bod allan ar y strydoedd heddiw, yn cefnogi reffendwm y Cwrdiaid yn Irac am annibyniaeth o Baghdad.

Mae’r symudiad diweddaraf hwn yn dangos effaith y bleidlais y tu hwnt i ffiniau Irac.

Mae trefnwyr y refferendwm yn y dalaith Gwrdaidd yn dweud fod y tyrnowt yn 70% ddoe, gan honni fod y bleidlais wedi dal dychymyg y Cwrdiaid sydd wedi dyheu am fod yn genedl go iawn.

Pan luniwyd map o’r Dwyrain Canol wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, fe rannwyd tiriogaeth y Cwrdiaid rhwng Twrci, Iran, Syria ac Irac.