Aung San Suu Kyi
Mae llysgennad Burma yn y Cenhedloedd Unedig wedi pwysleisio nad oes “glanhau ethnig” na hil-laddiad yn cael ei gynnal yn erbyn Mwslimiaid yn nhalaith Rakhine.

Mae Hau Do Suan wedi beirniadu “sylwadau afresymol” gan rai gwledydd oedd yn awgrymu hyn yn ystod ei araith yng nghynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Fe wnaeth sawl arweinydd gyfeirio at stad y 420,000 o Fwslimiaid Rohingya sydd wedi ffoi o Burma i Fangladesh ers Awst 25 pan wnaeth ymosodiadau Rohingya ar luoedd diogelwch arwain at weithgarwch milwrol a dialedd gan Fwdhyddion mwyafrifol.

Ymysg y rhai sydd wedi beirniadu Burma mae Sheikh Hasina, Prif Weinidog Bangladesh; Antonio Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a gwledydd gan gynnwys Yr Emiraethau Arabaidd Unedig

Cyfeiriodd Hau Do Suan at y sefyllfa yn nhalaith Rakhine fel un “hynod gymhleth” gan ddweud fod sawl rheswm am yr ecsodus gan alw ar y gymuned ryngwladol i edrych ar y sefyllfa yn “wrthrychol ac mewn ffordd ddiduedd”.

Mae’r mudiad hawliau dynol, Amnesty Rhyngwladol, wedi rhyddhau fideo, lluniau a data eraill y maen nhw’n honni sy’n dystiolaeth o “ymgyrch a drefnwyd o losgiadau systematig” gan luoedd Burma yn targedu degau o bentrefi Rohingya.