Mae Cwrdiaid yn Irac yn bwrw pleidlais heddiw mewn refferendwm ar annibyniaeth oddi wrth y weinyddiaeth yn Baghdad.

Dydi’r bleidlais ddim yn un y mae’n rhaid i’r drefn ei chydnabod, ond mae eisoes wedi cynhyrfu’r dyfroedd yn yr ardal, ac mae yna ofnau y bydd yn ansefydlogi bethau o fewn Irac.

Mae disgwyl i filiynau o bobol bleidleisio heddiw yn y tri rhanbarth yn yr ardal sy’n cael ei chydnabod fel Cwrdistan ac sydd eisoes â pheth hunanlywodraeth.

Ond fe fydd trigolion rhai tiroedd eraill hefyd – tiroedd sy’n cael eu hawlio gan Irac a’r Cwrdiaid, yn cynnwys dinas yr olew, Kirkuk – yn cael yr hawl i ddweud eu dweud.

Mae’r awdurdodau yn Baghdad yn gwrthwynebu cynnal y bleidlais, ac mae’r Unol Daleithiau wedi rhybuddio y gallai ansefydlogi’r ardal gyfan yn wyneb y frwdr yn erbyn eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mewn anerchiad ar deledu nos Sul, fe ddywedodd Prif Weinidog Irac, Haider al-Abadi said, fod y refferendwm yn “anghyfansoddiadol” a’i fod yn bygwth Irac, y cyd-fyw heddychlon rhwng Iraciad, a’i fod yn “beryg i’r rhanbarth”.

Ynghynt ddydd Sul, fe ddywedodd arlywydd rhanbarth Cwrdistan, Masoud Barzani, y byddai’r pleidleisio’n digwydd yn “heddychlon”, er ei fod yn cydnabod fod y llwybr i annibyniaeth yn un “mentrus”.

“Rydyn ni’n barod i dalu unrhyw bris am ein hannibyniaeth,” meddai.