Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am oes yn dilyn marwolaethau o leiaf 20 o gefnogwyr pêl-droed mewn stadiwm yn yr Aifft.

Roedd y ddau, ynghyd â dwsin o bobol eraill sydd wedi’u carcharu am hyd at ddeng mlynedd, yn gyfrifol am y marwolaethau ac am ddinistrio eiddo, ac fe gafwyd y criw yn euog o fod â ffrwydron yn eu meddiant.

Cafwyd dau ddyn yn ddieuog.

Cefndir

Saethodd yr heddlu at y dorf a defnyddio nwy ddagrau arnyn nhw yn yr Air Defence Stadium yn y brifddinas Cairo ar Chwefror 8, 2015.

Cafodd nifer o bobol eu sathru i farwolaeth.

Y Frawdoliaeth Foslemaidd gafodd y bai am y trychineb, ond roedd rhai yn dweud mai’r heddlu oedd yn gyfrifol.

Mae’r criw wedi’u gwahardd o’r byd gwleidyddol erbyn hyn, er bod yr aelod Mohamed Morsi wedi bod yn Arlywydd y wlad rai blynyddoedd yn ôl.