Un o losgfynyddoedd Indonesia (llun: PA)
Mae miloedd o drigolion wedi gadael eu cartrefi ar ynys Bali yn Indonesia oherwydd ofnau bod llosgfynydd ar fin ffrwydro.

Mae awdurdodau’r wlad wedi rhybuddio bod cynnydd anferthol wedi bod yng ngweithgaredd seismig mynydd Agung dros y dyddiau diwethaf.

Y tro diwethaf y ffrwydrodd y mynydd 9,944 o droedfeddi oedd yn 1963 pryd y cafodd dros fil o bobl eu lladd.

Mae tua 11,300 o bentrefwyr wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi, a gall fod cymaint â dwywaith neu deirgwaith hynny wedi ffoi yn wirfoddol.

Er bod yr ynys yn boblogaidd iawn gan ymwelwyr, dyw’r ardaloedd arfordirol twristaidd ddim mewn perygl ar hyn o bryd.

Mae ynysoedd Indonesia yn agored i ddaeargrynfeydd gan eu bod wedi eu lleoli ar ‘gylch tân’ y Môr Tawel – sef cylch o losgfynyddoedd a ffawtlinau sy’n amgylchynu’r cefnfor.