Mae llywodraeth Sbaen wedi rhybuddio y bydd yn anfon rhagor o blismyn i Catalwnia os bydd y refferendwm ar annibyniaeth yn dal i fynd yn ei flaen.

Cynyddu mae’r gwrthdaro a’r tensiynau rhwng Barcelona a Madrid wrth i lywodraeth Catalwnia ddal ati gyda’i pharatoadau i gynnal y refferendwm wythnos i yfory (Hydref 1).

Mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen wedi gorchymyn gohirio’r refferendwm tra bydd yn ystyried dadleuon cyfreithiol y ddwy lywodraeth.

Mewn datganiad dywed llywodraeth Sbaen y byddai’r plismyn ychwanegol yn cefnogi heddlu rhanbarthol Catalwnia, sydd hefyd o dan orchymyn i rwystro cynnal y refferendwm.

Yn y cyfamser, parhau mae’r tensiynau yn Catalwnia wrth i’r protestiadau yn erbyn llywodraeth Sbaen barhau ac wrth i’r heddlu gipio tua 10 miliwn o bapurau pleidleisio.

Mae tua 2,000 o fyfyrwyr wedi bod yn cynnal gwrthdystiad dros annibyniaeth yn un o brifysgolion mwyaf Barcelona, gan feddiannu rhai o’i phrif adeiladau.