Mae tua chant o ffoaduriaid ar goll, wedi i’r llong yr oedden nhw’n teithio arni fwrw creigiau oddi ar arfordir gorllewinol Libya.

Mae llefarydd ar ran gwylwyr y glannau yno wedi cadarnhau i’r llong gael ei chanfod ddydd Mercher, rhyw 12 milltir allan i’r môr o ddinas Zuwara.

Roedd hi wedi cychwyn ar ei thaith yn ninas Sabratha yn gynharach ddydd Mercher.

Y gred ydi fod 130 o ffoaduriaid ar ei bwrdd, y rhan fwyaf ohonyn nhw o Affrica. Fe gafodd 30 ohonyn nhw eu hachub o’r môr.