Llun: PA
Mae llongau patrol y llynges ym Mrasil a hofrenyddion yn chwilio am ddynes o Brydain sydd wedi mynd ar goll wrth ganŵio yn Afon Solimoes yn nhalaith ogleddol Amazonas.
Dywed y llynges bod y ddynes 43 oed wedi bod yn canŵio rhwng dinasoedd Codajas a Coari pan gafodd y gwasanaethau brys eu hysbysu ddydd Mercher.
Mae ei chanŵ a rhai eitemau personol wedi’u darganfod ond nid yw’r llynges wedi rhoi rhagor o fanylion.
Nid yw’r llynges wedi cyhoeddi enw’r ddynes.