Mae Arlywydd Catalonia ar fin dechrau’r ymgyrch dros bleidleisio o blaid annibyniaeth yn refferendwm y wlad.
Bydd Carles Puigdemont yn dechrau ymgyrchu ar gyfer y bleidlais a fydd yn cael ei chynnal Hydref 1 yn ninas Tarragona sydd 62 milltir i’r de o Barcelona.
Mae Llywodraeth Sbaen yn mynnu bod y bleidlais yn anghyfreithiol ac mae heddlu Sbaenaidd wedi derbyn gorchymyn i rwystro paratoadau am y bleidlais.
Cafodd gwefan y refferendwm ei dynnu i lawr yn hwyr ddydd Mercher yr wythnos hon (Medi 13) – ond ail-ymddangosodd ar ffurf wahanol funudau wedi hynny.
Dywedodd Carles Puigdemont wrth y darlledwr TV3, bod Llywodraeth Sbaen wedi creu “awyrgylch o elyniaeth a pharanoia” yn gysylltiedig â’r bleidlais.
Mae Dirprwy Brif Weinidog Sbaen, Soraya Saenz de Santamaria, wedi dweud nad oes modd trafod ag awdurdodau Catalonia tan eu bod yn cefnu ar gynlluniau’r refferendwm.