Mae o leiaf ddau o bobol wedi cael eu lladd gan hunanfomiwr ger stadiwm criced yn Afghanistan.

Roedd gêm griced yn cael ei chynnal yn y stadiwm yn Kabul ar y pryd, ac fe gafodd o leiaf saith o bobol eu hanafu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod cannoedd o bobol yn y stadiwm ar gyfer gêm gynghrair ar y pryd.

Daw’r ffrwydrad ychydig dros bythefnos ar ôl ffrwydrad mewn ardal fasnachol ger llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ar Awst 29, pan gafodd pump o bobol eu lladd.

Y Taliban sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad cyntaf.