Mae corwynt Irma wedi taro ynysoedd deheuol talaith Fflorida, ac mae arbenigwyr yn dweud mai corwynt categori pedwar yw e ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r Florida Keys gael eu taro heddiw wrth i’r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o hyd at 130 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd, cyn symud i fyny’r arfordir.

Mae mwy na 6.3 miliwn o bobol wedi cael rhybudd i adael eu cartrefi gan fod eu bywydau mewn perygl.

Mae o leiaf 25 o bobol eisoes wedi cael eu lladd gan y corwynt yn y Caribî.

Beth nesaf?

Fe allai’r gwyntoedd cryfion yn Florida Keys bara am rai oriau eto ac fe allai’r storm gyrraedd uchder o 15 troedfedd a tharo ynysoedd sydd yn codi ond ychydig droedfeddi uwchben lefel y môr.

Mae 430,000 o gartrefi heb drydan erbyn hyn, yn ôl adroddiadau, ac mae mwy na 50,000 o bobol wedi symud i lochesi.

Mae dinasoed Tampa a St Petersburg ar lwybr y storm.