Mae Irma wedi cael ei uwchraddio i gorwynt categori pedwar wrth iddo symud tuag at Fflorida, gan roi bywydau mewn perygl.
Mae canol y corwynt lai na 100 milltir o’r Florida Keys ar arfordir deheuol y dalaith.
Mae mwy na chwe miliwn o bobol yn Fflorida a Georgia wedi cael eu hannog i adael eu cartrefi, gyda rhybudd gan yr awdurdodau y gallai gwyntoedd godi i dros 110 milltir yr awr, a bod glaw trwm iawn ar ei ffordd.
Mae llywodraethwr Fflorida, Rick Scott wedi dweud bod y dalaith yn wynebu “sefyllfa sy’n peryglu bywydau”, gan ddweud fod gan bobol “gyfle olaf” i adael eu cartrefi.
Mae disgwyl y gallai’r Florida Keys wynebu difrod sylweddol pan fydd Irma yn taro ar ei anterth.
Roedd pryderon mai Miami fyddai’n cael ei heffeithio waethaf gan y corwynt, ond fe aeth ar drywydd gwahanol. Ond mae pryderon o hyd y gallai gael ei daro cyn i’r corwynt ddod i ben.
Corwynt Jose
Mae corwynt Irma wedi lladd 20 o bobol ac mae miloedd o bobol bellach yn ddigartref ers dydd Mercher.
Ar ynysoedd y Caribî, mae corwynt Jose wedi dechrau gadael ynysoedd Leeward, ac mae rhybuddion o hyd am stormydd trofannol ar rai o’r ynysoedd lle achosodd corwynt Irma gryn ddifrod ganol yr wythnos.