Y corwynt o'r gofod (llun parth cyhoeddus)
Ynysoedd Turks a Caicos yw’r ardaloedd diweddara’ i gael eu taro gan gorwynt pwerus sy’n chwipio’i ffordd trwy’r Caribî.

Hyd yma mae’r corwynt categori pump, Corwynt Irma, wedi achosi hafog ar nifer o ynysoedd yr ardal ac wedi lladd o leia’ 14 o bobol.

Cafodd bron pob un o adeiladau ynys Barbuda eu chwalu ac yn ôl awdurdodau daliadau Prydeinig Ynysoedd y Wyryf mae effaith y storm wedi bod yn “ddinistriol.”

Haiti nesa’

Wrth i’r corwynt symud tuag at y gogledd orllewin, mae disgwyl mai ynys Haiti fydd yn cael ei tharo nesa’ ac mae paratoadau mawr ar y gweill yn Florida ar dir mawr yr Unol Daleithiau.

Mae stad argyfwng wedi ei gyhoeddi yn Puerto Rico, Ciwba a Florida – yno mae pobol mewn ardaloedd ar lan y môr yn cael cyngor i adael eu cartrefi.

Corwynt Irma yw un o’r rhai cryfa’ ers cyn cof ac mae wedi cadw ei gryfder ar raddfa 5 yn hwy nag unrhyw gorwynt arall sydd wedi ei gofnodi.