Boris Johnson, yr Ysgrifennydd Tramor (Llun parth cyhoeddus)
Fe fydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cynnal cyfarfod brys heddiw mewn ymateb i brawf niwclear mwyaf grymus Gogledd Corea.

Mae gweinyddiaeth yr Arlywydd Donald Trump wedi rhybuddio y bydd unrhyw fygythiad i’r Unol Daleithiau neu ei chynghreiriaid yn arwain at “ymateb milwrol sylweddol.”

Daw’r cyfarfod heddiw yn dilyn cais gan y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Siapan, Ffrainc a De Corea ar ôl i Ogledd Corea gynnal ei chweched prawf niwclear.

Mae Kim Jong Un yn honni eu bod wedi cynnal prawf o fom hydrogen ac mae De Corea wedi ymateb drwy gynnal profion milwrol er mwyn rhoi “rhybudd clir” i Pyongyang.

Mae ysgrifennydd amddiffyn America, Jim Mattis wedi bod yn cynghori’r Arlywydd Trump ynglyn a’r opsiynau milwrol sydd ar gael os yw’r argyfwng yn gwaethygu.

Ond mae Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig Boris Johnson wedi rhybuddio yn erbyn gweithredu’n filwrol oherwydd bod gan Ogledd Corea y gallu i ddifrodi rhannau helaeth o boblogaeth Dde Corea a hynny heb arfau niwclear.

“Bygythiad”

Dywedodd y Prif Weindiog Theresa May bod gweithredoedd Pyongyang yn “peri bygythiad annerbyniol pellach i’r gymuned ryngwladol” ac mae hi wedi annog arweinwyr byd i gynyddu’r pwysau ar arweinyddiaeth Kim Jong Un.

Mae llywodraeth China wedi condemnio’r prawf ac wedi annog Gogledd Corea i beidio “cymryd camau sy’n gwaethygu’r sefyllfa.”

Ond mae Boris Johnson wedi annog Beijing i fynd ymhellach a rhoi pwysau economaidd ar Ogledd Corea.

Roedd y prawf niwclear wedi achosi daeargryn artiffisial ac yn ôl adroddiadau roedd adeiladau yn China a Rwsia wedi teimlo effeithiau’r daeargryn.