Mae rheol sy’n gwahardd teithwyr o’r Unol Daleithiau rhag mynd i Ogledd Corea, wedi dod i rym.

Mae’r gwaharddiad yn gwneud pasbort o America yn annilys ar gyfer teithio i Ogledd Corea, ac mae’n rhoi’r hawl i lywodraeth yr Unol Daleithiau dynnu’n ol pasbort y rheiny sy’n anwybyddu’r gwaharddiad.

DIm ond y rheiny sy’n cael caniatad “eithriadol o gyfyngedig” all fod uwchlaw’r gwaharddiad, ac y mae’n rhaid i’r teithwyr hynny brofi bod eu taith o fudd i’r Unol Daleithiau. Fe allai hynny gynnwys newyddiadurwyr a gweithwyr gwirfoddol.

Fe ddaeth y gwaharddiad i rym ar adeg lawn tensiwn rhwng y ddwy wlad.