Mae dau ddyn arfog oedd â’u bryd ar ladd gwleidydd ym Macistan, wedi lladd plentyn a phlismon.

Fe ddihangodd Khawaja Izharul Hasan yn ddianaf wedi’r ymosodiad yn ystod gweddïau Eid fore Sadwrn, yn ninas ddeheuol Karachi. Mae’n perthyn i’r Mudiad Muttahida Qaumi, sy’n cynrychioli siaradwyr Wrdw y wlad.

Roedd yn cymryd rhan mewn sesiwn cyfarfod pobol wedi’r cyfarfod gweddi, pan ddaeth y dynion arfog.

Mae plaid Khawaja Izharul Hasan yn rhanedig wedi i’r sylfaenydd, Altaf Hussein, wneud sylwadau gwrth-Pacistan yn Llundain y llynedd. Mae’n byw dramor ers blynyddoedd, ac mae ar restr y bobol y mae’r heddlu ym Mhacistan am eu holi am nifer o achosion troseddol.