Roedd merch fach a fu farw yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar wedi ei saethu ei hun yn ei phen gyda gwn ei thad, yn ôl canlyniadau awtopsi.

Fe fu Elise Dorr o dref Belfast, Maine, farw ddydd Llun (Awst 28).

Yn ôl yr heddlu, roedd y gwn yn berchen i’w thad, Todd Dorr, ac yn cael ei gadw mewn bag yn yr ystafell wely lle cafodd y ferch a’r gwn eu darganfod.

Dywedodd y tad wrth yr heddlu ei fod wrthi’n addasu’r teledu pan glywodd sŵn gwn.

Mae’n debyg bod y ferch wedi cael gafael yn y gwn – a oedd heb glo arno nac mewn holster – o’r bag ac yn gorwedd ar y gwely pan lwyddodd i’w danio.

Nid oes neb wedi cael ei arestio.