Mae awdurdodau yn America yn dweud ei bod hi’n debygol iawn y bydd ffatri gemegol y tu allan i ddinas Houston yn ffrwydro yn dilyn y llifogydd mawr ddaeth yn sgil Storm Harvey.

Hyd yn hyn, mae 31 o bobol wedi marw ac mae ymladdwyr tân wedi dechrau chwilio miloedd o dai i sicrhau “nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl”.

Mae’r storm wedi cilio o Tecsas ac ar ei ffordd i dalaith Louisiana, ond mae’r awdurdodau yn dweud nad yw’r gwaethaf drosodd i filiynau o bobol Houston – un o ddinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.

Mae’r ffatri gemegol tua 25 milltir o’r ddinas yn Crosby ac yn ôl llefarydd ar ran y cwmni, Arkema, mae’r llifogydd wedi golygu bod y safle wedi colli pŵer ac nad oes o gadw’r cemegau yn oer.

“Bydd tân yn digwydd. Bydd yn debyg i dân gasolin. Bydd yn ffrwydrol ac yn gryf,” meddai Janet Smith dros y cwmni o Ffrainc.

Mae’r ffatri wedi’i gwacáu ac mae trigolion sy’n byw o fewn 1.5 milltir i’r safle wedi gorfod gadael.

Fe wnaeth Arkema gyflwyno cynllun i’r llywodraeth yn 2014 yn amlinellu’r senario gwaethaf allai ddigwydd oedd yn nodi y gallai 1.1 miliwn o drigolion gael eu heffeithio dros bellter o 23 milltir.

Ond dywedodd y cwmni dydd Mercher bod y senario hwn yn “annhebygol iawn”.

1,000 o alwadau’r awr i 911

Mae nifer y meirw yn cynnwys chwe aelod o’r un teulu – pedwar ohonyn nhw’n blant – a gafodd eu dal mewn cerbyd yn y llifogydd.

Er bod y glaw trymaf drosodd, mae swyddogion yn dweud bod gwasanaethau brys ardal Houston yn cael dros 1,000 o alwadau’r munud gan bobol yn chwilio am help.