Mae pedwar o bobol wedi’u lladd, a beth bynnag 30 arall yn sownd, wedi i adeilad ddymchwel yn dilyn glaw mawr monswn yn ninas Mumbai.
Mae gweithwyr achub, yr heddlu a thrigolion lleol wedi helpu i dynnu 13 o bobol o’r rwbel, wedi i’r adeilad pum llawr ym mhrifddinas ariannol y wlad, gwympo.
Mae’r gwaith achub yn parhau, er mwyn ceisio cael at y bobol sy’n dal yn sownd.
Ond yr ofn mwyaf yw fod miloedd o adeiladau eraill ym Mumbai mewn peryg o ddymchwel, wedi’r glawiad mwyaf i gwymp ers dros 15 mlynedd.