Pab Ffransis, Cardinal Jorge Mario Bergoglio, Ariannin, Fatican Llun: PA
Mae goroeswyr damwain awyren a laddodd nifer o aelodau o dîm pêl-droed o Frasil wedi teithio i’r Fatican ar gyfer derbyniad gyda’r Pab.

Daeth yr awyren i lawr yng Ngholombia y llynedd, gan ladd bron bob aelod o dîm Chapecoense. Cafodd newyddiadurwyr a swyddogion y clwb eu lladd hefyd.

Dim ond chwech allan o 77 o bobol oedd wedi goroesi, gan gynnwys tri chwaraewr. Roedd dau allan o’r tri yn y Fatican heddiw.

Collodd un o’r ddau ran o’i goes yn dilyn y ddamwain. 

Cafodd y tîm groeso arbennig gan y Pab Ffransis yn ei anerchiad wythnosol yn y Fatican heddiw, ac fe wnaeth e gyfarfod â’r chwaraewyr er mwyn cael tynnu ei lun gyda nhw.

Fe fydd tîm Chapecoense yn herio tîm Roma yn y Stadio Olimpico (Stadiwm Olympaidd Rhufain) mewn gêm elusennol ddydd Sul, a’r elw’n mynd i dîm Chapecoense.