Mumbai fin nos (Kelly CCA 2.0)
Mae glaw mawr y tymor monswn wedi dod â phrifddinas ariannol India i stop.

Mae strydodd Mumbai wedi troi’n afonydd, ac mae trigolion wedi bod yn cerdded trwy ddwr at eu canol.

Fe gwympodd 5 modfedd o law ddydd Mawrth (Awst 29), ac roedd hynny’n ormod i isadeiledd Mumbai. Fe ddaeth y drafnidiaeth gyhoeddus i stop, ac fe orfodwyd miloedd o gymundwyr i aros yn eu swyddfeydd dros nos, yn hytrach na mynd adref.

Fe ddaeth y gwasanaeth trenau i stop hefyd, ac fe adawyd bysiau yng nghanol y dyfroedd. Fe gafodd awyrennau eu hanfon i feysydd awyr eraill.

Erbyn bore heddiw (dydd Mercher), roedd y mwyafrif o’r trenau yn rhedeg unwaith eto, ond mae hi’n dal yn ddi-drefn o ran y traffig.

Mae disgwyl i fwy o law syrthio heddiw, ac oherwydd hynny, mae awdurdodau lleol wedi gofyn i bob ysgol a choleg i aros ar gau am y dydd.