Dinas Houston yn Tecsas
Mae pryderon bod chwe aelod o’r un teulu wedi marw wrth i storm drofannol barhau i daro talaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r awdurdodau’n rhybuddio y gallai’r sefyllfa waethygu eto.
Yn dilyn pedwar diwrnod o law trwm, mae tair marwolaeth wedi’u cadarnhau a dinas Houston wedi’i pharlysu gan y llifogydd.
Storm Harvey oedd y corwynt mwyaf grymus i daro’r Unol Daleithiau ers 13 mlynedd ac mae’r awdurdodau’n amcangyfrif y bydd hanner miliwn o bobl angen lloches.
Mae disgwyl i’r Arlywydd Donald Trump ymweld â dwy ddinas yn Tecsas heddiw i weld yr ymdrechion sydd ar y gweill i roi cymorth i bobl sydd wedi’u heffeithio.
Mae wedi rhoi addewid y bydd arian o gronfa ffederal frys yn cyrraedd yr ardaloedd hynny sydd wedi’u difrodi yn y storm, yn fuan.