Taflegryn (Llun parth cyhoeddus)
Mae Prif Weinidog Siapan wedi beirniadu Gogledd Corea yn hallt wedi i daflegryn gael ei lansio dros Siapan yn gynnar fore Mawrth (amser lleol).

Cafodd y taflegryn ei danio o brifddinas Gogledd Corea, Pyongyang, ac mae’n ymddangos mai dyma’r prawf hiraf erioed wrth iddo hedfan dros Siapan cyn syrthio i ogledd y Môr Tawel.

Yn ôl adroddiadau fe deithiodd y taflegryn tua 1,677 milltir gan gyrraedd uchder o 341 milltir wrth deithio dros ynys Hokkaido.

Dyma’r taflegryn cyntaf i deithio dros Siapan ers 2009, ac mae’n dwysáu’r pryderon fod Gogledd Corea gam yn nes at anfon rhagor o daflegrau i geisio targedu’r Unol Daleithiau a’u cynghreiriaid.

Dwysáu pryderon

Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd arfog De Corea eu bod yn asesu’r taflegryn ar y cyd â’r Unol Daleithiau ac wedi dwysáu eu gwaith monitro a rhagbaratoi rhag ofn y bydd Gogledd Corea yn cymryd camau pellach.

Ychwanegodd Prif Weinidog Siapan, Shinzo Abe, nad oes llogau na dim arall wedi’u difrodi ac y bydd yn gwneud “ei orau glas i ddiogelu bywydau pobol.”

“Mae’r weithred fyrbwyll hon o lansio taflegryn sy’n hedfan dros ein gwlad yn creu bygythiad digynsail, difrifol a phwysig,” ychwanegodd.

Mae disgwyl y bydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cynnal cyfarfod brys i ymateb i’r mater.