Mae Corwynt Harvey wedi lladd o leiaf ddau o bobol yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau, ac mae hyd at 14 o bobol wedi’u hanafu.

Fe achosodd gryn ddifrod rhwng Corpus Christi a Houston, ond dydy’r awdurdodau ddim eto wedi gallu dweud beth yw’r gost yn nhermau ariannol na bywydau.

Dydy’r gwasanaethau brys ddim wedi gallu cyrraedd y mannau a gafodd eu heffeithio fwyaf oherwydd y tywydd garw.

Mae rhybudd y gallai’r stormydd bara rhai diwrnodau eto, ac fe allai hyd at 40 modfedd o law gwympo yn y cyfnod hwnnw.

Mae “cryn ddifrod” yn nhref Port Aransas, lle mae 3,800 o bobol yn byw, yn ôl yr awdurdodau.

Mae cartrefi, busnesau ac ysgolion wedi cael eu difetha yn nhref Rockport, oedd wedi cael ei tharo’n uniongyrchol gan y corwynt.

Cafodd un person ei ladd mewn tân yn ystod y llifogydd yn Aransas, a chafodd y llall ei ladd mewn llifogydd yn sir Harris.

Corwynt Harvey

Hwn yw’r corwynt gwaethaf yn yr Unol Daleithiau ers degawd a mwy, ac fe darodd yr arfordir ddydd Gwener ac yntau’n gorwynt categori 4.

Fe gyrhaeddodd y gwyntoedd gyflymdra o 130 milltir yr awr.

Erbyn dydd Sadwrn, roedd wedi’i is-raddio i storm drofannol, a’r gwyntoedd wedi gostegu i 40 milltir yr awr.