Mae Mudiad Pobol Angola dros Ryddid (MPLA) wedi ennill etholiad y wlad â 61% o’r bleidlais, yn ôl comisiwn etholiadol y wlad.

Er nad yw pob un bleidlais wedi eu cyfri mae’n ymddangos bod MPLA wedi ennill â phedwar miliwn pleidlais, tra bod y brif wrthblaid, Unita, wedi derbyn 1.8 miliwn pleidlais (27%).

Yn sgil y canlyniad mi fydd Arlywydd Angola ers 38 blynedd, Jose Eduardo dos Santos, yn ymddiswyddo ac mi fydd y Gweinidog Amddiffyn, Joao Lourenco, yn esgyn i’r rôl.

Mae’r MPLA wedi rheoli Angola ers ei hannibyniaeth o Bortiwgal yn 1975 ac wedi ennill pob etholiad ers 1992.

Bellach mae’r blaid yn meddu ar 150 sedd yng Nghynulliad Cenedlaethol y blaid sydd 25 sedd yn llai na’r nifer cafodd eu hennill yn etholiad 2012.