Mae byddin India wedi anfon milwyr i dref yng ngogledd India, lle mae miloedd wedi ymgynnull i glywed dyfarniad llys yn erbyn y gwrw, Sant Dr Gurmeet Ram Rahim Singh Ji Insan.
Mae wedi’i gyhuddo o dreisio dau o’i ddilynwyr, ond yn gwadu’r cyhuddiadau.
Mae tua 100,000 o’i ddilynwyr wedi ymgynnull yn nhref Panchkula er mwyn clywed dyfarniad y llys yno.
Pryder yr awdurdodau yw gallai cefnogwyr y gwrw droi’n dreisgar os caiff ei farnu’n euog. Mae strydoedd y dref eisoes wedi eu baricedio.