Un o'r diffynyddion (AP Photo)
Mae dau o bobol a gafodd eu harestio ar ôl yr ymosodiad brawychol yn ninas Barcelona a thref Cambrils wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl gwrandawiad llys a’u cyhuddo o ladd.

Mae un arall wedi’i rhyddhau o dan amodau arbennig, a phedwerydd yn parhau i gael ei holi am 72 awr arall.

Fe ddywedodd un o’r ddau wrth y llys fod imam oedd yn rhan o’r cynllwyn wedi bwriadu ei ffrwydro ei hun o flaen cofeb amlwg yn Barcelona.

Cyhuddo o ladd

Mae’r pedwar dyn hefyd wedi cael eu holi am ffrwydrad mewn gweithdy creu bomiau ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’r safle yn dilyn yr ymosodiadau.

Mae Mohamed Houli Chemlal, 21, a Driss Oukabir, 28, wedi’u cyhuddo o ladd ac o anafu yn dilyn ymosodiad brawychol ac o fod yn aelodau o sefydliad brawychol.

Mae Mohamed Houli Chemlal hefyd wedi’i gyhuddo o drin ffrwydron.

Rhyddhau un

Fe gafodd trydydd dyn, Mohamed Aalla, ei ryddhau ar yr amod ei fod yn ymddangos gerbron llys bob wythnos, yn ildio’i basport ac yn aros yn Sbaen.

Fe fydd pedwerydd dyn, Sahl El Karib, sy’n berchennog ar gaffi seibr yn Ripoll ar gyrion y Pyreneaid, yn cael ei holi am 72 awr arall.

Tystiolaeth

Roedd Driss Oukabir, Mohamed Aalla a Sahl El Karib wedi gwadu eu bod yn rhan o’r gell frawychol,

Maen nhw wedi cadarnhau mai’r imam, Abdelbaki Es Satty, oedd arweinydd y cynllwyn =- fe gafodd ei ladd mewn ffrwydriad damweiniol wrth baratoi bomiau.

Mae’r heddlu’n credu bellach fod holl aelodau’r gell frawychol naill ai yn y ddalfa neu wedi’u lladd.