Mae Donald Trump wedi ymosod ar aelodau o’i blaid ei hun wedi i’w ymateb dadleuol ynghylch trais cenedlaetholwyr croenwyn hawlio’r penawdau.

Mae Gweriniaethwyr amlwg yn cwestiynu ei arweinyddiaeth yn gyhoeddus, ac mewn ymateb fe aeth Donald Trump ar Twitter i amddiffyn cofebion i Gydffederalwyr.

Mae rhai yn America am chwalu’r cofebion am eu bod yn deyrnged i feistri caethwasiaeth, medden nhw.

Ond yn ôl yr Arlywydd Trump, mae ymdrechion i’w tynnu nhw i lawr yn ymosodiad ar “hanes a diwylliant” America.

Hefyd fe ddwrdiodd y bobol sydd wedi’i feirniadu am ei ymateb araf ac ymosodol i’r trais hiliol yn Charlottesville <https://golwg360.cymru/newyddion/rhyngwladol/273184-donald-trump-yn-ail-danior-ffrae-tros-drais-yn-charlottesville>, Virginia.

Roedd Donald Trump wedi ymateb llawer yn gynt ddoe i gondemnio’r trais yn Barcelona, wedi’r ymosodiadau brawychol yno.

Fe wnaeth e’ wedyn drydar yn cyfeirio at chwedl am filwr o’r Unol Daleithiau a drechodd rebeliaid Mwslemaidd ganrif yn ôl yn Ynysoedd y Philipinas, drwy eu saethu â bwledi wedi eu trochi mewn gwaed mochyn.

Corker yn celpio’r Donald

Mae’r Seneddwr Bob Corker o Tennessee ymysg y rhai yn y Blaid Weriniaethol sy’n lladd ar Donald Trump.

Dywedodd nad yw’r Arlywydd “wedi gallu dangos y sefydlogrwydd na’r gallu sydd ei angen” wrth ymateb i argyfyngau.

Roedd yn rhaid i Donald Trump ddod a dau gyfarfod o’r cyngor busnes i ben ddydd Mercher, ar ôl i aelodau ddechrau gadael mewn protest.