Donald Trump
Mae pwysau cynyddol ar Arlywydd yr Unol Daleithiau i gondemnio grwpiau casineb yn sgil gwrthdaro hiliol yn nhalaith Virginia.

Mae un ddynes wedi marw a 19 unigolyn wedi eu hanafu wedi i gar blymio mewn i dorf oedd yn protestio yn erbyn rali hiliol yn ninas Charlottesville ddydd Sadwrn.

Hyd yma mae’r Arlywydd Donald Trump wedi beio “sawl ochr” am y trais, ac wedi cael ei feirniadu am beidio â chynnig condemniad cryfach o grwpiau eithafol.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi rhyddhau datganiad yn condemnio mudiadau hiliol gan gynnwys y Klu Klux Klan, ond llefarydd ar ran y weinyddiaeth yn hytrach nag yr Arlywydd ei hun sydd yn gyfrifol am gynnwys y testun.

Wrth siarad yn ystod cyfweliad deledu, dywedodd y Twrnai Cyffredinol, Jeff Sessions, bod yr Arlywydd yn gwrthwynebu gwerthoedd mudiadau hiliol “yn llwyr”.