Cafodd dynes 32 oed ei lladd a llawer o bobl eraill eu hanafu wrth i gar gael ei yrru’n fwriadol i dorf o brotestwyr mewn tref yn nhalaith Virginia ddoe.

Roedd llywodraethwr y dalaith, Terry McAuliffe, wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn sgil gwrthdaro treisgar rhwng cenedlaetholwyr gwyn a’u gwrthwynebwyr yn Charlottesville ddoe.

Roedd y cenedlaetholwyr gwyn yn protestio yn erbyn cynllun i gael gwared ar ddelw o’r cadfridog Robert E Lee, un o arweinwyr taleithiau’r de yn  Rhyfel Cartref America. Arweiniodd hyn at wrth-brotest gan eraill yn erbyn hiliaeth.

Mae dyn 20 oed, sydd wedi cael ei enwi fel James Fields o dalaith Ohio,  yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl iddo yrru ei gar i ganol y protestwyr gwrth-hiliol.