Mae heddlu Kenya wedi saethu dau o bobol yn farw yn ystod protestiadau gwrth-lywodraeth ar ôl i’r Arlywydd Uhuru Kenyatta gael ei ail-ethol.

Cafodd y bobol eu lladd ar gyrion dinas Kisumu, un o gadarnleoedd arweinydd yr wrthblaid, Raila Odinga.

Cafodd pump o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad.

Fe fu protestwyr yn gosod blocâd ar ffyrdd yn Nairobi yn ystod y dydd.

Apeliodd yr Arlywydd am undod ddydd Gwener yn dilyn cyhoeddi canlyniad yr etholiad.

Mae Raila Odinga yn honni bod canlyniad yr etholiad wedi cael ei drefnu ymlaen llaw.