Donald Trump (Michael Vadon CCA 4.0)
Mae’r tensiynau’n cynyddu rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau wrth i’r Arlywydd yno ddweud nad oedd bygwth “tân a chynddaredd” ddim yn ddigon.

Er fod gweinidogion amlwg yn ei lywodraeth yn swnio’n fwy cymodlon, mae’r Arlywydd Donald Trump bellach yn dweud y gallai Gogledd Corea fod “mewn trwbwl nad oes llawer o genhedloedd wedi gweld ei debyg”.

Mae dau brif reswm tros y cynnydd mewn tensiwn ar hyn o bryd:

  • Bygythiad Gogledd Corea i ymarfer tanio taflegrau i gyfeiriad ynys Guam, lle mae gan yr Unol Daleithiau ganolfannau milwrol.
  • Bwriad yr Unol Daleithiau a De Corea (gelyn mawr y Gogledd) i barhau gydag ymarferion milwrol blynyddol yn yr ardal, gyda degau o filoedd o aelodau’r lluoedd arfog yn cymryd rhan.

Sancsiynau

Dros y Sul fe gafodd yr Unol Daleithiau gefnogaeth gan y Cenhedloedd Unedig i’w cais am sancsiynau cryfach yn erbyn Gogledd Corea oherwydd ei bod hi’n parhau i geisio datblygu arfau niwclear.

Mae dyfalu bod gan y Gogledd arfau niwclear eisoes a’u bod yn datblygu taflegrau i’w tanio cyn belled â’r Unol Daleithiau.

Yn ôl Donald Trump, fe fydd yntau’n gwneud cais am hawl i wario milynau ddoleri ar arfau gwrth-daflegrau newydd.