Safle'r ddau dwr yng Nghanolfan Fasnach y Byd, Efrog Newydd a gafodd eu difrodi yn ymosodiad 9/11
Mae gweddillion dyn a gafodd ei ladd yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd ar 11 Medi 2001 wedi cael ei adnabod yn swyddogol – 16 mlynedd ers yr ymosodiadau brawychol.

Mae ei deulu wedi gofyn am beidio cyhoeddi ei enw, meddai swyddfa’r arolygydd meddygol yn Ninas Efrog Newydd.

Dyma’r tro cyntaf i weddillion person gael eu hadnabod yn ffurfiol ers mis Mawrth 2015.

Mae profion DNA a dulliau eraill wedi cael eu defnyddio i geisio adnabod y 2,753 o bobl gafodd eu lladd yn yr ymosodiad pan darodd ddwy awyren yn erbyn tyrrau’r Ganolfan Fasnach yn 2001.

Hyd yn hyn, mae gweddillion 1,641 o ddioddefwyr wedi cael eu hadnabod sy’n golygu bod 40% o’r rhai fu farw yn dal heb gael eu hadnabod yn swyddogol.

Cafodd technoleg DNA newydd a mwy sensitif ei ddefnyddio yn gynharach eleni sydd wedi helpu i adnabod gweddillion y dyn, meddai swyddfa’r arolygydd meddygol.

Mae’r broses wedi bod yn un hir gan fod y gwres, bacteria ac effaith cemegau, fel y tanwydd o’r awyrennau, wedi’i gwneud yn anodd adnabod y gweddillion y cafwyd hyd iddyn nhw yn y tyrrau.

Cafodd bron i 3,000 o bobl eu lladd yn ymosodiadau 9/11 yn Efrog Newydd, y Pentagon a ger Shanksville, Pennsylvania.