Mae pennaf arweinydd Iran wedi beirniadu sancsiynau America ar Tehran, ac mae wedi addo y bydd ei wlad yn bwrw ymlaen gyda’i rhaglen i ddatblygu taflegrau, er gwaetha’r pwysau rhyngwladol.

“Mae Washington yn barod i ddefnyddio unrhyw esgus i wneud ffws,” meddai Ayatollah Ali Khamenei, tra’n siarad heddiw mewn seremoni i gyflwyno’r Arlywydd Hassan Rouhani ar gyfer ail dymor yn y swydd.

“Os ydych chi’n tanio taflegryn sy’n cario lloeren, maen nhw’n dechrau gwneud swn,” meddai Ayatollah Ali Khamenei.

“Mae ein taflegrau ni yn ganlyniad i waith gwyddonol a thechnegol sy’n rhaid ei wneud.

“Yr ymateb gorau i sancsiynau America ydi i dyfu’n gryfach,” meddai wedyn. “America ydi gelyn mwyaf ymosodol a digywilydd ein gwlad.”