teigr
Mae person wedi cael ei ladd bob dydd gan deigrod neu eliffantod yn India dros y tair blynedd ddiwethaf, yn ôl ystadegau diweddar.

Cafodd 1,144 o bobol eu lladd rhwng Ebrill 2014 a mis Mai eleni, yn ôl ystadegau sydd wedi cael eu rhyddhau gan weinyddiaeth amgylchedd India.

Mae’r marwolaethau yn rhannol gysylltiedig gyda thwf poblogaeth 1.3 biliwn India a’r ffaith bod pobol yn  ymgartrefu fwyfwy mewn cynefinoedd gwyllt.

Yn aml mae pobol ac anifeiliaid yn cystadlu am fwyd yn ardaloedd gwyllt y wlad, ac mae dinistriad amgylchfyd y teigrod ac eliffantod hefyd wedi cyfrannu at y broblem.

“Gwrthdaro yw un o brif heriau cadwraeth,” meddai Sylfaenydd Cymdeithas Gwarchod Bywyd Gwyllt India, Belinda Wright. “Yn India mae’r broblem yn fwy difrifol oherwydd maint y boblogaeth.”

“Mae dyfodol ymdrechion cadwraeth yn India yn ddibynnol ar warchod cynefinoedd ei mamaliaid eiconig. Mae teigrod angen lle i fridio wrth iddyn nhw deithio ar draws parciau bywyd gwyllt.”