Jeanne Moreau yn 1962 (Llun: PA)
Mae’r actores o Ffrainc, Jeanne Moreau wedi marw yn 89 oed.

Yn ystod  ei gyrfa dros saith degawd, fe weithiodd gyda’r cyfarwyddwyr enwog Francois Truffaut, Orson Welles, a Wim Wenders ymhlith eraill.

Mae Jeanne Moreau yn fwyaf enwog am ei pherfformiad yn ffilm Francois Truffaut, Jules et Jim yn 1962.

Fe enillodd hi wobrau yng Ngŵyl Ffilm Cannes ac Oscar anrhydeddus.

Roedd swyddfa’r Arlywydd yn Ffrainc wedi cadarnhau ei marwolaeth mewn datganiad ond nid oes manylion wedi cael eu rhoi ynglŷn â sut y bu farw.

Mae’r Arlywydd Emmanuel Macron wedi rhoi teyrnged iddi gan ganmol ei gallu i actio mewn gwahanol genres a’i diddordeb mewn gwleidyddiaeth.