Mae prif weinidog Sweden, Stefan Lofven, wedi ail-drefnu ei gabinet, yn y gobaith o osgoi creisis gwleidyddol.

Mae wedi gorfod cael gwared â dau o’i weinidogion, wedi i’r wrthblaid alw ar i dri ohonyn nhw gael cic allan o’r cabinet ar ol un o’r “methiannau diogelwch mwyaf yn hanes y wlad”, meddir.

Felly, mae’r gweinidog materion cartref wedi cael mynd, ynghyd â’r gweinidog isadeiledd, ond mae Stefan Lofven wedi mynnu cadw ei weinidog amddiffyn, Peter Hultqvist.

“Roedd y penderfyniad, gan yr wrthblaid, i gynnal pleidlais ddiffyg hyder mewn tri o weinidogion ein llywodraeth yn un byrbwyll a blêr,” meddai Stefan Lofven.

“Rydw i wedi gorfod gweithredu er mwyn osgoi creisis gwleidyddol yn Sweden. O hyn ymlaen, mae hi i fyny i’r Senedd…”