Mae 26 o filwyr wedi’u lladd mewn ymosodiad gan y Taliban ar wersyll lluoedd diogelwch Afghanistan yn nhalaith Kandahar.

Fe gafodd 13 o filwyr eraill hefyd eu hanafu yn y digwydd dros nos yn ardal Khakrez.

Y llynedd, fe gafodd mwy na 6,800 o bobol eu lladd, a 12,000 arall eu lladd gan ymsododiadau’r Taliban yn yr ardal hon sy’n cael ei hystyried yn gadarnle iddyn nhw.

Mae tua 195,000 o filwyr y lluoedd diogelwch yn gweithio yn yr ardal, a mwy na 150,000 o blismyn. Ond maen nhw wedi ei chael hi’n anodd i gadw trefn ar y Taliban.