Mae o leiaf dri o bobol wedi marw, a naw arall wedi’u hanafu, wedi i adeilad pum llawr gwympo am eu pennau yn ninas Mumbai yn India.

Dyw hi ddim yn glir eto beth oedd i gyfri’ am i’r adeilad, lle’r oedd nifer o bobol yn byw, ddymchwel.

Mae gweithwyr achub wrthi’n chwilio yn y rwbel am bobol a allai fod wedi goroesi.

Mae digwyddiadau o’r fath yn cael eu hystyried yn weddol gyffredin yn India, ac mae ymgyrchwyr yn tynnu sylw’n gyson am ddeddfau adeiladu llac sy’n caniatau i adeiladwyr dorri corneli wrth godi tai ac ychwanegu lloriau heb orfod cael caniatad.

Yn 2013, fe gwympodd adeilad oedd yn cael ei godi’n anghyfreithlon yn Mumbai, gan ladd 74 o bobol.