Yn y Swistir, mae’r heddlu’n chwilio am ddyn yn dilyn ymosodiad ar bump o bobl gyda llif gadwyn mewn swyddfeydd yn ninas Schaffhausen.

Cafodd pump o bobl eu cludo i’r ysbyty, dau ohonyn nhw gydag anafiadau difrifol, yn dilyn y digwyddiad am 10.39yb (amser lleol).

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n trin y digwyddiad fel “gweithred brawychol.”

Mae’r heddlu wedi rhybuddio bod y dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad yn “beryglus”.

Mae wedi cael ei adnabod fel Franz Wrousis, 51 oed.

Mae Schaffhausen yn ddinas i’r gogledd o Zurich, ger y ffin a’r Almaen ac mae ganddi tua 36,000 o drigolion.