Llun: PA
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ymosodiad ym mhrifddinas Afghanistan sydd wedi lladd 24 o bobl ac anafu 42.
Roedd hunan-fomiwr wedi targedu bws yn cludo gweithwyr yn y diwydiant petrolewm.
Yn ôl datganiad y Taliban, bwriad yr hunan-fomiwr oedd targedu’r gwasanaethau cudd-wybodaeth a’u gweithwyr.
Roedd llefarydd y Taliban Zabihullah Mujahid, yn honni bod y bws yn llawn gweithwyr o’r gwasanaethau cudd-wybodaeth ond mae pennaeth yr heddlu yn Kabul wedi gwadu hynny gan ddweud eu bod yn gweithio i’r diwydiant petrolewm.