Mae llys yn Rhufain wedi cael mwy na 40 o ddiffynyddion yn euog o dwyll, ac mae’r achos wedi amlygu system o lwgr-wobrwyo a chodi ofn er mwyn ennill cytundebau yn y ddinas.

Mae arweinydd y drefn, Massimo Carminati, wedi cael ei ddedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar – sy’n llai na’r ddedfryd o 28 mlynedd yr oedd erlynwyr wedi gofyn amdani.

Roedd yr erlynwyr wedi dadlau fod y twyll a’r llygredd, a oedd yn cynnwys y ffordd yr oedd cysgodfannau i ffoaduriaid yn cael eu rheoli, ynghyd ag asiantaethau hylendid, cynnal a chadw parciau, a gwasanaethau eraill y ddinas.

Roedd y troseddau’n dyddio’n ol flynyddoedd.